Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'D ydi-hi ddim yn gyfundrath o gwbwl; cym- myscedd ydi-hi o ychydig ne lawer o betha Catholig wedi'w neuthur wrth fympwy y cym- myscwr, ac yn ymnewid yn barhaus yn ôl dyall dyn a dull yr oes. Yn wir, nid mewn credu dim pendant y mae hi yn gynnwysedig, eithyr yn hytrach mewn ymwrthod â mwy ne lai 0 athrawieutha, a dyledswydda a defoda'r Eglwys Gatholig.

Fe fydde rhai yn ymwrthod â rhiw athrawiath neu gilidd am ei bod yn ddyrys; rhai yn ym- wrthod â rhiw ddyledswydd neu gilidd am ei bod yn anodd, ac erill yn ymwrthod â rhiw ddefod neu gilidd am ei bod-hi'n drafferthus. Fel engraff, fe ymwrthododd y rhan fwyaf â chyffesu er mwyn gallu pechu yn ddirgel gyd â mwy o rysedd; ac fe ymwrthododd y rhan fwyaf ag athrawiath y purdan, nid am eu bod-nw yn gallu profi fod yr athrawiath honno yn erbyn yscrythyr, traddodiad a rheswm, eithyr am ei bod-hi'n cymmell dyn nid yn unig i gredu yng 'Rhist er mwyn bod yn gadwedig, ond hefyd i ddilin Crist er mwyn bod yn berffath, a thrwy hynny ochel y tân a drefnwyd i boeni ac i buro y rhai am- herffath. Eithyr fe awgrymwyd o'r blaen nad â'r un petha yr oedd pawb o'r Protestanied yn ym- wrthod; canys yr oedd yr hynn a ystyrid yn athrawiath sylfeunol gann rai yn athrawiath ddamiol gann erill. Er engraff, yr oedd rhai o honynw yn cyhoeddi mai melltigedig ydi'r dyn na chredo fod Duw yn Dri Pherson, ac erill yn cyhoeddi mai politheistiad ydi'r dyn a gredo hynny; rhai yn credu fod yr Iesu yn Fab Duw, ac erill yn credu mai dyn amherffath oedd-o; rhai yn dywedyd fod credinwyr yn bwytta cnawd Mab y dyn, ac erill yn teuru mai ei Yspryd-o y maenw