Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei fwytta; rhai yn dywedyd fod bedydd yn tycio llawer, rhai yn dywedyd nad ydi-o'n tycio dim, ac erill yn esponio ei fod-o'n tycio rhiwfaint rhwng llawer a dim; rhai yn dywedyd mai discin a neuthoni o Addaf ac Efa, ac erill yn egluro yn ddyscedig mai esgyn a neuthoni o riw epaod cynffonnog; rhai yn dywedyd fod gweithredodd da yn angenrheidiol i ryngu bodd Duw, ac erill yn dywedyd nad ydynw ddim; rhai yn synio fod Peder a Phaul yn fwy ysprydoledig na Göthe a Carlyle, ac erill yn amma hynny; rhai yn dywedyd mai yr eglwys ydi colofn a sylfan y gwirionedd, ac erill yn dywedyd y bu'r gwirionedd, am fil o flynyddoedd o leia, yn sefyll ar ei sodla'i hun; rhai yn dywedyd gyd â Phaul, "Tawed y gwragedd yn yr eglwysi, ac erill yn llefan gyd â Booth, Y neb sydd ganddo dafod i frygawthan, brygawthed "; rhai yn credu, yn ôl proffwydoliath Malachi, y dylid offrymu arogldarth ac offrwm pur i enw Duw ym'lhith y cenhedlodd, ac erill yn credu fod cyfnod yr arogldarthu a'r offrymu wedi mynd heibio; rhai yn meddwl fod gweddïa saint perffeithiedig yn tycio mwy eroni na gweddïa saint y ddeuar, ac erill yn meddwl yn wahanol; y rhan fwyaf o honynw hyd riw gant a hanner o flynyddodd yn ôl yn gwann gredu fod uffern, ond pan euthonw i ofni y galle'r uffern honno fod wedi ei darparu ar gyfer rhiwrai heb law cythreulied a Chatholigion, a'u gelynion nhw'u hunen, nw daflason uffern i'r un diddymdra ag y taflasenw'r purdan iddo.

Chi a welwch, gyfeillion, fod yn annichon i mi ddywedyd pa beth ydi Protestaniath, canys y mae-hi fel siacced Peder wedi ei cwttogi a'i