Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Profwch hynny eich hunen trwy fyned at un o'r Protestanied sydd yn y wlad, a'i annog i ddychwelyd i hen eglwys ei dada. Odid fawr nad cammol Protestaniath a neiff-o; yr hynn a ddyry i chitha gyfleustra i ofyn Protestaniath pwy y mae-o'n ei chammol: ai Protestaniath Harri VIII ynte Knox; ai Protestaniath Luther, ai Zuinglius, ynte Calvin; ai Protestaniath Brigham Young ynte Bwth I?

Hynn yn ddiau a fydde'i atteb: "'D ydw i'n cammol Protestaniath neb heb law fym 'Rhotestaniath i fy hun."

Gan fod Protestaniath yn gydgasgliad o ronyna mor anghydiol, efalle fod yn rhyfedd gann rai ohonochi ei bod-hi wedi ymddal ynghyd am gyhyd o amser; ond chi a beidiwch â rhyfeddu pann ddywedaf wrthochi mai trwy wadu ei hun y peidiodd Protestaniath â marw yn yr escoreddfa. Hawl pob dyn i farnu drosto'i hun am byngcia dadguddiad ydi'w heddgwyddor sylfeunol hi; ond ar ôl rhoddi i ddynion yr hawl honn, er mwyn gwrthwynebu ohonynw awdurdod yr Eglwys Gatholig, hi a attaliodd yr unriw hawl oddi wrthynw, trwy eu cymmell i ymostwng i awdurdod eglwys neilltuol.

Yr oedd " Rhydd i bob dyn ei farn ac i bob barn ei llafar "yn burion arwyddair wrth ymladd yn erbyn y Pab; ond pann ymgynnullodd at Luther "bob gŵr helbulus, a phob gŵr oedd mewn dyled, a phob gŵr chwerw'i enad, fo aeth yn dywysog arnynw, ïe, yn bab. Yna, fel pob chwyldroadwr, fo ddadblygodd faner arall ag arni yr arwyddair hwnn:

Rhydd i bob dyn farnu fel Luther, a llefaru yng'eiria Cyffes Ffydd Angsburg; ond melltigedig