Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a fyddo pob dyn a farno ac a lefaro fel Leon X, fel Zuinglius, fel Calvin, ac fel Carlostadt."

A'r un geiria, oddi eithyr fod yr enw personol yn wahanol, oedd ar faneri Zuinglius, a Chalvin a Charlostadt hefyd.

Fel credo gosodedig, fe ddiflannodd Protestaniath gyd â'i bod-hi wedi ymddangos; ond fel sect, ne'n hytrach fel cynnulliad o secta yn ymnewid ac yn ymgenhedlu y naill o'r llall, hi a barhaodd am ganrifodd. Am ei bod yn gynnwysedig o secta, ac iddi Gyffesion Ffydd i gyfyngu ar briod farn dyn, sef ydi hynny: am iddi frysio i ddynwared Catholigath trwy bwyso ar awdurdod yn lle ar ryddid barn, y llwyddodd-hi i hongian byw cyhyd ag y gnaeth-hi. Eithyr, fe ddoeth yr amser pann y bu'n gywilyddus gann ddynion ym- gyfenwi yn Brotestanied, a nhwtha, fel y Catholigion, ac am weulach rheswm na'r Catholigion, yn gwisgo am eu gwddw rwyma caethiwed yn lle gwiscodd rhyddid. A dyma'r pryd y cafodd egwyddor gyntefig Protestaniath gyfleustra teg i ddinistrio Protestaniath ei hun.

Pa beth bynnag a feddylioni am y Protestanied a fynson fod yn Brotestanadd, rhaid ini addef eu bod-nw'n onest yn eu ffordd, ac yn gysson â nhw'u hunen.

"Pa beth ydi Protestaniath (meddanw) amgen na hawl y dyn unigol i brotestio yn erbyn y lliaws, pann y byddo'r lliaws hynny yn cyttuno i gyfyngu ar ei hawl-o, trwy gymmell arno eu credoa, eu Cyffesion Ffydd, eu Rheola Disgybleuthol, a'u defoda? Pa reswm a allwni ei roi am aros y tu allan i'r Eglwys Gatholig, a ninna wedi mynd allan ohoni yn unig am ein bod yn gwrthwynebu egwyddor ag yr ydani yn awr yn ei hamddiffyn