Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn gweithredu wrthi? Ai er mwyn dewis Martin Luther yn bab y cefnasoni ar Leon X? A adawsoni'r Eglwys er mwyn ymgrebachu mewn sect? A fwriasoni ymaith fantell ddi-wnïad o dduwinyddiaeth, a gyd-dyfodd â chorff yr Eglwys dross ystod mil a hanner o flynyddodd, er mwyn gwisco rhiw glytwaith o Gyffes a ddarparwyd mewn brys a llid gan ychydig o feidrolion yn Augsburg? Pwy yn awr sy'n malio pa rai oedd opiniyna Luther ne Calvin ne Cranmer, na neb arall o seiri athrawieuthau amriw a dieithyr y deg a'r seithfed canri? Croeso i bob un ohonynw ei opiniyna'i hun; eithyr pwy a osododd hwnn ne arall ohonynw yn farnwr ne'n llywodr- euthwr arnon ni? Y mae'n wir fod Calvin yn cammol ei hun ac yn difenwi ei wrthwynebwyr cystal â neb fu yn y byd erioed, ond 'd ydi hynny ddim yn ein rhwymo ni i'w ganmol-o[1]. Y mae'n wir fod Luther yn honni ei fod-o wedi derbyn ei ddaliada o'r nef[2] (oddi eithyr ei ddysceidiath am yr offeren, yr honn, yn ôl ei addefiad o'i hun, a gafodd-o gann Sattan),[3] ond y mae pawb yn awr yn ddigon grasol i dybied mai pann y bydde chwiw o wallgofrwydd arno y bydde-fo'n cablu fel hyn. Yr ydani'n gofyn etto (meddanw) pa faint mwy o hawl oedd gann y pabau ymetholedig hynn i ymawdurdodi ar erill nag oedd gan erill i ymawdurdodi arnyn nhw? Y mae pabau ac arglwyddi, a phenneithied, a secta, a Chyffesion Ffydd, a holiaduron, ac awdurdod o bob math,

  1. Bossuet, Histoire de Variations, Tome i, 420.
  2. Cyfeirio yr ydys yma, y mae'n amlwg, at yr ym adroddion cableddus hyn: Certum est dogmata mea habere me de coelo. Non sinam vel vos vel ipsos angelos de coelo de mea doctrina judicare.
  3. Europ. Civilisation, Note 11, p. 414.