Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gwbwl anghysson ag egwyddorion Protestaniath. Pann y dygwyd y petha hynn i mewn iddi, hi a ddylse newid ei henw neu ynte beidio â bod. Y mae arnon ni Brotestanied lawer o ddiolch i Luther am gychwyn treiglo'r bêl; eithyr wedi i'r bêl fynd o'i ddwylo-fo, yr ydani'n heuru nad oedd ganddo fo na neb arall hawl i osod terfyn i'w rhediad-hi.

"Efalle y dywed rhai nad ydi'r egwyddor sylfeunol y soniwyd am dani yn cynnwys dim mwy na hawl pob dyn i esponio yr Yscrythyra yn ôl ei ddyall ei hun; ond 'd ydi'r eglurhad yma yn lleihau dim ar anghyssondeb y Diwigwyr a'u dilynwyr; o blegid gann fod dyall dynion yn amriwio yn ddirfawr yn ôl eu natur, eu teimlad, eu dawn, a'u dysc-nw, fe ellid disgwil i rifedi'r gwahanol farna fod agos gimmin â rhifedi'r esponwyr; yr hynn a fydde'n rhwystyr digonol i neb allu gneyd un sect ohonynw. Ond pwy a ddichon atteb y gofyniad: Beth ydi gwir- ionedd?' ne gann bwy y mae hawl i benderfynnu pa esponiad sy'n gywir? Y darllennwr ei hun, meddwn ni, er lleied a fyddo'i ddawn a'i ddysg. Yr hen Eglwys apostolig a chatholig trwy ena'i phenn deuarol,' ebe'r Catholigion. Sylfeunwyr y sect ag y mae y darllenwyr yn eulodau ohoni, ne'n hytrach: y gwŷr a osodwyd, neu a ym- osodason ohonyn eu hunen, i lunio Cyffes Ffydd i'r sect honno,' ebe'r rhan fwyaf o Brotestanied. "I ni y mae y syniad olaf o'r tri yn wrthunach na'r ail, sef syniad y Catholigion.

"Ond pa ham, attolwg, yr ydys yn cyfyngu Protestanied i ddangos eu Protestaniath trwy esponio yr Yscrythyra? A ydys yn discwil i bleidwyr barn briod lyngeu pob peth arall cynn ei brofi-o yn gynta? Beth am y Canon? Pwy