Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mae'n wiw iddo fod yn bwngc agored gann erill hefyd; ac yn wir, pwngc agored a ddyle fod pob pwngc dyrys gann Brotestanied egwyddorol.

Pann ddechreuodd Protestanied lefaru fel hynn, yr oedd yn hawdd rhagweled yr ymchwale'r secta Protestanadd ar fyrder.

O'r blaen, yr oedd y secta Protestanadd yn byw wedi'w am fod yr egwyddor Brotestanadd chladdu; o hynny allan fe farweiddiodd y secta Protestanadd am fod yr egwyddor Brotestanadd wedi adgyfodi. Hynn ydi swm y cwbwl a ddywedwyd: sef, mai yn egwyddor ac nid yn gorff y dichon i Brotestaniath fyw yn hir.

Ynglŷn â'r hynn sy newydd ei dreuthu, y mae un anghyssondeb arall a barodd i'r dosparth mwy rhesymegol ddarfod â Phrotestaniath: sef gwaith y Protestanied yn teuru y galle'r Testament Newydd fod yn anffeuledig heb fod yr Eglwys hefyd yn anffeuledig. Nw a barhason i deuru hynny ar y Cyfandir hyd y deg a seithfed canri; ac yn yr ynys honn hyd ddiwedd y deg a nowfed canri.

Ni raid imi ddim ymdroi i ddangos i chi, sydd yma heddiw, fod anffeuledigrwydd y Testament Newydd yn gorphwys ar anffeuledigrwydd yr Eglwys. Os cyfeiliornodd hi wrth sefydlu'r Canon, yna y mae y Canon ei hun yn gyfeiliornus, a'r Protestanied hefyd yn cyfeiliorni wrth apelio atto. Yr oedd Protestanied yr oesodd gynt yn llefaru fel pe bysenw'n meddwl fod Duw wedi rhoddi'r Testament Newydd yn uniongyrchol â'i ddwylo'i hun i'w tada-nw, fel y rhoes-o'r gyfraith i Foesen ar fynydd Sina; eithyr, yn y mann, fe argyhoeddwyd y rhai mwya crefyddol o honynw mai yr Eglwys Gatholig, ym'henn rhai oesodd