Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar ôl marw yr apostolion, a gasclodd y Scrythyra yng'hyd, o dann arweiniad yr Yspryd, ac a'u traddododd-nw i ni.

"A wyti'n dyall y petha yr wyti yn eu darllen? ebe Phylip wrth yr eunych.

"Pa fodd y galla-i," ebe fynta, "oddi eithyr i riwun fy ng'hyfarwyddo-i?

Yn awr, pa ddyn, ne pa ddosparth o ddynion, sy cynn gymhwysed i gyfarwyddo darllennwr annyallus ynghylch meddwl ymadroddion Duw â'r hen Eglwys yr ymddiriedodd Duw iddi am danynw? Bwrier mai y Bibil yn unig ydi llyfr cyfrath anffeuledig y Cristion, y mae ei anffeuledigrwydd-o yn gwbwl ofer heb farnwr anffeuledig i'w egluro-fo, a'i iawn gyfrannu. Pa morr gywir bynnag ei farn, a pha morr ysprydol bynnag, a fyddo'r dyn unigol, nid oes un broffwydoliath o'r Ysgrythyr o ddehongliad priod.'

Eithyr yr oedd, ysywath, nifer mawr Brotestanied erill nad oedd ganddynw mo'r galon hawddgar a da oedd gann y rheini. Er hynny, fe fynne'r rhain hefyd ymddwyn yn gysson; felly, ar ôl gweled na allenw yn rhesymol ddim myntumio fod y Scrythyrau yn anffeuledig heb fyntumio fod yr Eglwys hefyd yn anffeuledig, nw a droison i deuru nad oedd na'r Eglwys na'r Yscrythyra yn anffeuledig. Belled y gall dyn wrthgilio ar ôl ymwrthod ag awdurdod: cadarn sail pob cymdeithas!

Dyma un peth arall a barodd i lawerodd ddiflasu ar Brotestaniath: sef anghyssondeb pleidwyr rhyddid barn, yn anad neb, yn tarfu, yn gorfodogi, ac yn erlid y rhai a feiddien farnu yn wahanol iddyn nhw.[1]

  1. Lingard's Hist., vol. viii, 178, 195.