Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd y gallu i erlid, yn y modd mwyaf eithafol, yn dyfod o gyssylltiad y prif secta â'r wladwriath; ond yr oedd y duedd i erlid cynn gryfed yn y secta Ymneilltuol ag yn y secta gwladwrieuthol-yn gryfach yn wir; am fod euloda'r secta hynny yn byw mewn byd llai nag euloda'r secta sefydledig. Dross ennyd, fel y dywedwyd, y cafodd Protestaniath Ymneilltuol gyfleustra i garcharu ac i ladd yn y wlad honn; ond yn yr hynn a eilw'r Seuson yn petty persecution fe ellir dywedyd am dani yn ei chaethiwed mwya: "Yr hyn a allodd honn, hi a'i gnaeth."

Ni fu erioed ei rhagorach-hi am ddifenwi ei gwrthwynebwyr, ac am briodoli drwg amcanion i'r rhai a ymwrthoden â hi. Gwraig anynad a fu Protestaniath Ymneilltuol, yn torri calon dyn heb dorri llythyren y chweched gorchymyn.

Am Brotestaniath sefydledig ne wladwrieuthol, fe fydde hi yn gyffredin yn torri penn dyn cynn cymeryd amser i dorri'w galon-o. Y Brotestaniath honn a olyga Rousseau yn fwya neilltuol pann y dywedodd-o "fod y Diwygiad Protestanadd yn anghydoddefgar o'i gryd, ac fod ei awdwyr ym'hob mann yn erlidwyr."[1]

Er fod llawerodd wedi ymneilltuo o'r secta sefydledig, a'r rheini wedi gneyd crynn lawer o ddisgyblion ym'lhith y werin, etto fe ellir dweyd mai gwladwrieuthol yn anad un grefydd ydi Protestaniath, a'i bod o'r dechreuad yn hytrach yn grefydd y pendefigion nag yn grefydd y bobol.[2] Trwy ymgysylltu â brenhinodd a phendefigion er mwyn darostwng gweinidogion yr Eglwys y

  1. Lettres de la Montagne.
  2. Balmez' European Civilization, p. 340, a Mensel's Deutsch. Litt., cyf. i.