Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gallodd-hi ymsefydlu yn yr Almaen ac ym'hob gwlad arall. Nid rhyfedd gann hynny ei bod-hi mor falch; a chann ei bod-hi mor falch, nid rhyfedd ei bod-hi morr erlidgar.

Eithyr y mae'n rhyfedd-yn rhyfedd iawn, fod dynion a ymwahanson oddi wrth y Catholigion am y rheswm fod gann bob dyn hawl i farnu drosto'i hun, yn erlid erill o blegid fod y rheini yn hawlio yr un fraint â nhwtha.

Yr oedd gann y Catholigion riw fath o escus, a dweyd y lleia, am erlid rhai anghydfarn, canys y nhw oedd mewn awdurdod—in possession, fel y dywed y Seuson, ac erill oedd y gwrthryfelwyr; ac heb law hynny, y mae y Catholigion erioed yn credu fod camfarn mor feius â chamweithred.

Ac onid un yn dewis ei grefydd yn lle'i derbyn-hi ar bwys tystiolath, a thrwy awdurdod—ne, mewn geiria erill, onid un yn barnu drosto'i hun, a feddylir yn y Bibil wrth "heretic"? Fe allwn ni gann hynny ddwedyd mai hereticied a erlidiason ni, eithyr ni all y Protestanied heuru mai hereticied a erlidiason nhw wrth ein herlid ni.

Wrth sôn am erledigath, yr ydwi'n dyfod at beth arall a ddywedisi yn y dechra: sef fod cwymp Protestaniath i'w briodoli nid yn unig i gynnydd gwybodath y werin mewn rhesymeg, ond hefyd i gynnydd eu gwybodath-nw mewn hanesyddiath.

Hyd ddechra'r igieinfed canri yr oedd yr hanesyddion Protestanadd agos i gid yn dychmygu'w ffeithia yn lle chwilio am danynw; a'r ychydig o rai ymchwilgar hefyd, gann faint eu rhagfarn, yn cuddio ffrwyth eu hymchwil ac yn treuthu celwydda o'u gwirfodd. Llyfra, ne grynhodeb o lyfra, yr ystorïwyr anwybodus a'r hanesyddion rhagfarnllyd hynn a ddyscid yn yr holl