Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysgolion, ac nid rhyfedd gann hynny fod cenhedlath ar ôl cenhedlath yn y gwledydd Protestanadd yn credu celwydd.

Er mwyn dangos ichi mor anwybodus oedd y bobol yn yr oesodd tywyll pann oedd Protestaniath yn ffynnu yn y tir, mi a ddywedaf ichi ffaith y gellid ei chadarnhau â mil o dystioleutha: sef, fod y cyffredin yn credu yn eu calon, ïe, yn dywedyd yn uchel, fod y Catholigion wedi erlid cymmin ar y Protestanied ag a erlidiodd y Protestanied arnyn nhwtha; a pha ŵr Catholig bynnag a lede'i lyged mewn syndod, ne a lede'i geg i chwerthin, wrth glywed heuriad mor wrthun, fe ofynnid iddo yn hyderus iawn:

"Beth am dana Smithfield yn'heyrnasiad Mari Weudlyd? a pha beth am alanas Gŵyl Bartholomeus?

Er fod Cobbett, Froude, ac amriw Brotestanied erill, yn cyfadde ddarfod i'r Frenhines Elspeth grogi a dadgymmalu a diberfeddu a a darnio cymmin bumwaith ne chwegwaith o Gatholigion, a hynny am weulach escus, ag a loscodd Mair o Brotestanied,[1] etto fe fynne'r bobol wirion alw'r gydwybodol Fair yn" Fari Weudlyd," ac Elspeth halogedig yn "Elsa Dda!"

Pa ryfedd i anfoesoldeb fynd yn anrhydeddus ym'lhith y Protestanied, a nhwtha yn galw yn dda y ddynes aflanaf a chreulonaf a mwya di- gydwybod a fu erioed ar orsedd Lloiger? Nid oes

  1. Felly y dywed Bellingham yn Social Aspects, p. 154; er fy mod i wedi methu â chael hyd i eiriau mor bennodol yn Cobbett. Dyweyd y mae efe yn Prot. Ref., viii, ddarfod i Elspeth ladd mwy o Gatholigion mewn blwyddyn nag a laddodd Mair o Brotestaniaid yn ystod ei holl deyrnasiad, ac mai dynion dychmygol, gwrthryfelwyr, a set of most wicked wretches, oedd y rhan fwyaf o ferthyron Foxe.