Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

achos i mi geisio cyfiawnhau Mair am farwoleuthu cynnifer o hereticied Protestanadd, oddi eithyr y rhai oedd, fel Cranmer a Ridley, a Latimer a Hooper a Rogers a Poynet a Sandys, yn deyrn-fradwyr hefyd; canys fe fynnodd Mair neyd hynn yn erbyn cyngor caplan ei gŵr, ac yn erbyn cyngor y Prif Arch-escob Pole ei hun, cennad y Pab, fel na ddylid priodoli ei gwaith hi o gwbwl i'r eglwys neu i'r grefydd Gatholig.[1]

Ond pe byswn i'n byw yn amser y bobol dwylledig oedd wedi'w dyscu i gyfenwi Mair yn weudlyd a Betsan y Vir(a)go yn "dda," fe fyse arnai chwant gofyn iddynw, fel y gofynodd llawer un o'm blaen, y mae'n ddiau: Pa ham yr ydachi'n ymgyffroi o blegid yr ychydig o benneithied a loscwyd yn rhybudd i'r lliaws yn amser Mair, ac heb gydymdeimlo â'r llawerodd a farwoleuthwyd yn ddiwahaniath yn amser Harri VIII, Edward VI, Elspeth, Iago I, y ddau Garl,[2] a Chromwel?

Ai am fod gwaed ychydig o Brotestanied yn werthfawroccach na gwaed llawer o Gatholigion?

A fyse'n well gynnochi o lawer iawn gael eich diberfeddu yn fyw gann Elspeth na'ch llosci ar ffagoda crinion gann Mair?

Pa fodd y profwchi fod gann Elspeth fwy o reswm am ladd dynion o achos na fynnenw ddim derbyn ei chrefydd newydd hi nag oedd gann Mair am ladd dynion o achos iddynw adal hen grefydd a fyse yn y byd er's mil a hanner o flynyddodd?

  1. Lingard's Hist of Engl., vol. v, chap. 6.
  2. Er mwyn Cymry Rhydychen, mi a ddylwn egluro mai Dsiâms, neu Dzjâms, ydyw Iago, ac mai Tsiarls ydyw Carl (neu Siarl), yn eu hiaith hwy.