Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ie, attebwch hynn hefyd: Pa beth ydi tippyn o erlid gwyllt dross ychydig o fisodd, wrth yr erlid pwyllog, penderfynol a didor a fu ar y Catholigion am dri chann mlynedd a chwaneg?

Pwy a rif fyrddiyna'r Catholigion a laddwyd, a arteithiwyd, a feuddwyd, a garcharwyd, yspeiliwyd, ac a ymlidiwyd o'u cartrefi ac o'u gwlad, o ddyddia Harri dew hyd ddyddia Gwilim dena?

Ond er fod creulondeb eich tada Protestanadd tuag at y Catholigion ym 'Rhydan a'r Werddon wedi bod yn fwy ac yn hwy na chreulondeb un dosparth o bobol, o ddechreuad y creadigath hyd yr awr honn, yr ydachi yn y diwedd yn ddigon digwilidd i sôn wrthai am waith Mair! Ai dena'r cwbwl?

O, na, chi a soniasoch am ddy' gŵyl Sant Bartholomeus hefyd, onid do? A wyddochi riw- beth am ddydd Bartholomeus, ac am y dyddia blinion a arweiniodd iddo?

Os darllensochi hanes yr Hugnotied mewn rhiw lyfra heb law llyfra'r gwyngalchwyr Protestanadd, y mae'n rhaid eich bod wedi canfod nad saint oedd y Ffrangcod hynny, eithyr gwrthryfelwyr angrhefyddol, yn ceisio rhannu Ffraingc, a sefydlu gweriniath y tu hwnt i'r Loire; gwrthryfelwyr a loscason igian mil o eglwysi, a naw cant o drefi, ac a laddason luodd o'u trigolion-nw, yn wŷr, gwragedd a phlant; gwrthryfelwyr a dorfynyglason 256 o offeiried a 112 o fynachod yn Dauphiné yn unig, ac a dreisiason fynachesi a gwyryfon ym'hob parth;[1] gwrthryfelwyr a wahoddason

  1. Felly y tystiolaetha Nicholas Froumanteau, yr hwn oedd Brotestaniad.