Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

estroniaid i'w cynorthwyo i ymosod ar eu cyd- wladwyr eu hunen, ac a roison Dieppe a Havre i'r Seuson.

Pa ham yr ydachi'n sôn am y gyflafan a fu ar y Protestanied ym 'Haris a lleodd erill, heb sôn am y cyflafanau a fu cynn hynny ar y Catholigion yn Nimes, yn Navarreins, yn Roche-Abeille a Pau? ac oni wyddochi mai o achos i Coligny, bleunor yr Hugnotied, gyflogi dyhiryn i furnio'r Duc Guise yn Orleans y darfu i fab y Duc Guise hwnnw furnio Coligny ym 'Haris? Ac os bu a wnelo'r brenin â'r gyflafan, fe ddylid cofio fod Coligny eynn hynny wedi gneuthur cynllwyn i'w gipio ymath, os nad i'w ladd-o hefyd; a phe na byse'r breninieuthwyr wedi achub y blaen ar eu gelynion, onid oes sail dda i benderfynnu y gneuthe'r Hugnotied iddyn nhw yr hynn a neuthon nhw i'r Hugnotied?[1]

Dynion yn heuddu marwolath yn ddiau oedd agos bawb o'r Hugnotied; er hynny, peth anheg ac anghatholig i'r penn oedd eu cospi-nw yn afreoladd yn amser heddwch, a'u gyru-nw ben- dramwnwg i uffern heb roi iddynw amser i ddweyd eu pader.

Heb law hynny, fe ddylsid eu difa-nw yn fwy llwyr o lawer os oeddid yn meddwl eu hattal-nw rhag cenhedlu rhiwiogath o ddynion mwy anffyddol na nhw'u hunen i beri chwyldroad gwaeth fyth yn Ffraingc, canys os na lwyddodd Cromwell i ddileu Catholigath yn y Werddon trwy gigyddio myrddiyna, pa fodd y gallase'r Duc Guise ac erill obeithio dileu Protestaniath yn Ffraingc trwy ladd

  1. Encyclopédie Theologique, o dan y gair "Barthelemy." Lingard's Hist. of Engl., vol. vi, 138. Milner's Letters to a Prebendary. Cobbett's Prot. Ref. chap. 10.