Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ychydig o gannodd ar ddydd Sant Bartholomeus a'r dyddia dilynol? Fe gyhoeddwyd, yn wir, ar y cynta, ddarfod lladd can mil ar y dyddia hynny; ond yn fuan fe ddywedwyd mai 70,000 a laddwyd, wedyn mai 30,000, wedyn mai 20,000, wedyn mai 10,000, ac yn ddiweddaf oll mai 2,000; ond fe ddarfu i un Protestaniad manylach na'r cyffredin ymdrafferthu i chwilio, ac nid i ddyfalu, pa beth oedd y nifer; ac wedi chwilio fo a fethodd â phrofi fod mwy na 786 wedi eu lladd yn holl Ffraingc![1]

Chi a welwch fod yr hen Fetsan wedi'r cwbwl yn rhagorach cigyddes na Chathrin de Medicis, ac fod Olfyr Cromwel yn ymyl Guise fel cawr yn ymyl corach. O hynn allan, galwer dydd Bartholomeus yn ddydd llwyd ac nid yn " ddydd du," canys y mae ei dduach o lawer yng 'Halaniadur y Protestanied.

Trwy ymosod fel ena ar Brotestaniath, ac nid trwy ymfoddloni ar amddiffyn Catholigath, yr attepswn i yr adar dynwaredol a ddyscwyd i weuddi "Dim Pabyddiath."

Gyfeillion Catholig, Da y gŵyr y rhai hynaf ohonoch chi na fu Eglwys Rhufain erioed yn hawlio nac awdurdod na gallu i erlid mewn un modd; eithyr gann fod rhai heresïa yn tueddu i ddymchwelyd llywodrath gyfreithlon, heddwch cyhoeddus a moesoldeb natturiol, ni pherthyn i'r Eglwys rwystro yr awdurdoda gwladol i ddarostwng yr heresia hynny trwy gespedigeutha, pann farner fod achos.

Er engraff, pan y cafwyd Ieuan Huss yn euog o ymgyndynnu mewn heresi, fe gyhoeddodd y cyngor eglwysig oedd yn ei brofi-o mai hawl i

  1. Cobbett's Prot. Ref., Letter X. Encyc. Theol., Tome xxxvi, 334.