Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyhoeddi'r ddedfryd yn unig oedd ganddo fo, ac os gwele'r awdurdoda gwladol yn dda gospi Huss yn ôl deddfa'r wladwriath, fod dyled ar y barnwyr eglwysig a'i barnodd o'n euog, i erfyn am faddeuant iddo.[1] Yr un ffunud, pan benderfyn- odd Mair farwoleuthu rhai o'r prif Brotestanied, naeth hi mo hynny yn ôl addysc yr Eglwys Gatholig, nac yn ôl cyfarwyddiada'r Pab, eithyr wrth annogaeth Gardiner a Bonner; a hynny am resyma gwladwrieuthol.[2]

Er nad ydi'r Catholigion yn cydnabod rhyddid cydwybod, y maenw'n cydnabod rhyddid addoliad; ac yr oeddid yn'hiriogath y Pab ac yn Ffraingc yn caniathau rhyddid i addoli er's talm hir o amser cynn i un wladwriath Brotestanadd ganiat-hau dim rhyddid i Gatholigion.[3]

Am Brotestanied, yr oedden nhw o'r dechreuad yn gwrthwynebu rhyddid crefyddol, ar air ac ar weithred.[4] Fe ddaru i Melanchthon, Calvin, Beza a Bulliger yscrifennu llyfra i amddiffin erlid; ïe, hyd anga.[5] Yr oedd Knox yn pleidio hynny yn ei holl ysgrifeniada.[5] Bucer a gyfrifid y gwareiddiaf o'r holl Ddiwigwyr; ac er hynny fo ddywedodd y byse'n rheitiach i Galvin na Ïlosci Servetus dynnu'w berfedd-o allan, a malu'w gorff-o yn ddarna yn ôl dull Betsan Goch;[6] ac os oedd Brucer yn llefaru fel hynn, chi a ellwch ddychmygu pa fodd y llefare rhai mwy cegrwth o fath Luther a Knox.

  1. Dr. Milner's End of Religious Controversy, p. 231
  2. Milner's Letters to a Prebendary, p. 129.
  3. Bellingham's Soc. Asp., pp. 416, 235.
  4. Hallam's Const. Hist., vol. i, p. 130. Bellingham's Soc. Asp., p. 251.
  5. 5.0 5.1 Soc. Asp., 142.
  6. Hist. Abreg. Reform., Pays Bas, Tome i, 454.