Y mae'n hyspys fod Senedd Lloiger yn barhaus yn annog Iago I i arfer mwy o lymder tuag at y Catholigion; ac fe ddarfu i'r Archescob Abbott ei rybuddio-fo yn erbyn pechu trwy eu godde-nw.[1] Fe ddiorseddwyd Iago II o achos ei fod-o'n awyddus i bob cyfundeb crefyddol gael mwynhau yr un breintia; ac nid oedd un dosparth yn fwy gwrthwynebol iddo na'r Ymneillduwyr.[2] Yr oedd yn well gann y rhain ddiodde caethiwed eu hunen na gweld y Catholigion yn mwynhau rhyddid. Fe ddarfu i'w duwinyddion Presbyteradd oedd wedi ymgynnull yng 'Holeg Sïon benderfynnu mai peth cyfeiliornus oedd caniathau rhyddid cydwybod.[3] Pan ymwthiodd yr Ymneillduwyr i awdurdod o dann Cromwel, nw a erlidiason hyd anga y Catholigion, ac euloda sect Elspeth hefyd; ac yn ôl eu rhagrith arferol, nw a bennodason ddyddia ymostyngiad ac ympryd i erfyn maddeuant gann Dduw am fod mor oddefgar![4]
Fe fysid yn discwil y byse'r Ymneillduwyr a groesason Fôr y Werydd, er mwyn rhyddhau rhyddid barn a llafar yn Lloiger Newydd, yn ymddwyn yn dynerach tuag at erill, yn y wlad honno, nag yr ymddygase sect Elspeth tuag attyn nhw yn yr hen wlad; eithyr fe ddengys y ddeddf honn a gadarnhawyd yn Plymouth yn y flwyddyn 1657 mai erlidwyr creulon ydi'r Protestanied, i ba sect bynnag y perthynonw: