Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"It is further enacted that if any Quaker or Quakers shall presume, after they have once suffered what the law requireth, to come into this jurisdiction, every such male Quaker shall, for the first offence, have one of his ears cut off, and for the second offence have the other ear cut off," &c. "Every female Quaker shall be severely whipped, and for the second offence shall have her tongue bored through with a hot iron," &c.[1]

Ac felly ym mlaen hyd anga.

Talath Gwilim Penn, cyfall yr "hanner pabydd," Iago II, a thalath Arglwydd Baltimore, sef Virginia Gatholig, oedd yr unig daleithia lle y cae dyn y pryd hwnnw addoli fel y mynne-fo.

Ond ai erlidiau yn unig ydi ffrwyth y Brotestaniath a gyfododd yn y deg a chweched canri?

Nag e, yn ddiau; canys iddi hi y rhaid hefyd briodoli yr holl chwyldroada, a'r rhann fwyaf o'r rhyfelodd erchyll, a fu yn Ewrop o hynny hyd yr igieinfed canri.[2] Iddi hi yr ydys i ddiolch am y Ddyled Wladol a fu am gyhyd o amser yn orthrwm ar y ddwy ynys hynn; ac i'w gwaith hi yn dinistrio'r mynachlogydd, noddfeydd y rheidusion, ac yn yspeilio yr Eglwys, gwir fam y bobol, o'i meddianna, gann eu trosglwyddo-nw o afal y llawer i ddwylo'r ychydig y rhaid priodoli Deddfa'r Tlodion, a'r tlodi mawr a ddioddefodd milodd yn y wlad honn, er gweutha'r deddfa hynny.[3]

O Brydan, gyhyd y'th dwyllwyd â chlebar dynion trachwantus ac aflonydd!

  1. Bellingham's Social Aspects, p. 129.
  2. Bellingham's Soc. Asp., p. 151, &c.
  3. Cobbett's Reformation, Lett. vi, xvi; a Balmez, European Civilization, p. 340.