Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn awr, pann ymgododd ym 'lhith y Protestanied hanesyddion mwy ymchwilgar a diragfarn, a theimlo ohonynw mai cyhoeddi ffeithia ac nid teunu gwrachïaidd chwedla ydi gweddus waith hanesyddion; a phann y gwybu'r darllenwyr yr un ffunud mai crefydd erlidgar, yspeilgar, a rhyfel- gar oedd Protestaniath, hi aeth yn ebrwydd iawn yn ffiadd yn eu golwg-nw, ac a aeth yn ffieiddiach fyth ganddynw pann y dadguddiwyd iddynw wir gymmeriad cychwynwyr Protestaniath.

"A feiddiwni (ebe nhw) ac a allwni gredu ddarfod i Dduw godi dynion didoriad o'r fath yma i' ddiwygio' yr eglwys? Tybed mewn difri mai crefydd Crist ydi'r grefydd a luniwyd mewn trachwant, ac a escorwyd arni mewn celwydd, ac a borthwyd ag yspal ac â gwaed? a'r honn, heb law hynny, a ddygodd i'r byd newyn a noethni, na bu erioed o'r blaen ei gyffelyb; heb sôn am y gynnen a'r ymryson sy'n peri gofid i'r saint a thramgwydd i Baganied."

Cynn yr amser yr ydwi'n cyfeirio atto, yr oedd gwerin bobol y wlad honn, gann eu bod heb fedru na Lladin na Ffreuneg nac Ellmynaeg, ac felly yn gorfod dibynnu ar gyfieithiada coginiedig, yn meddwl mai brith angylion, nad oedd y byd hwn yn deilwng ohonynw, oedd y Diwigwyr Protest- anadd; ond och! fel y didwyllwyd-nw pann y darfu haf yr hanesyddion a'r cyfieithwyr coginiol.

Ni wydden nhw o'r blaen fod Luther morr chwannog i siarad yn serth ag oedd-o i gablu; ni wydden nhw ddim y bydd efo'n diotta ac yn ymloddesta mewn tafarna gyd ag Amsdorf ac oferwyr cyffelyb;[1] ni wydden nhw na bu a wnelo-fo

  1. Y mae geiriau Luther ei hun yn ei bregeth ar "Gamarfer" yn cadarnhau hyn hyd ym mhell.