Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddim â gwragedd, yn ôl ei dystiolath o'i hun, tra y parhaodd-o yn eulod o Eglwys Rhufan; ni wydden nhw ddim iddo gynghori Harri VIII i gymmeryd iddo'i hun ail wraig, heb ymdrafferthu i ymyscar oddi wrth Cathrin ei wraig gynta.[1] Ni wydden nhw ddim ddarfod iddo fo a Melanchthon a Bucer gyttuno i roi trwydded i Phylip o Hesse, colofn y Diwygiad," i briodi yn ddirgel ail wraig tra yr oedd ei wraig gyfreithlon yn fyw, am y rheswm rhyfedd fod y tywysogyn hwnnw yn tystiolaethu na alle-fo ddim peidio â phechu fel a'r fel heb gael gwraig hawddgarach na'r un oedd ganddo-fo.t Ni wydden nhw i Luther ddywedyd rai blynyddodd cynn hynny wrth bregethu yn Wittemberg: Os bydd y gwragedd yn gyndyn, y mae'n iawn i'r gwŷr ddywedyd wrthynw: Si tu nolueris, alter volet; si domina nolit, adveniat ancilla."[2] Ni wyddenw ddim iddo scrifennu rhigwm ar ddalen wenn Bibil, yn cynnwys gweddi ar Dduw am ddigonedd o gig-fwyd a diodydd meddwol; am liaws o wragedd ac ychydig o blant.[3] Ni wydden nhw ddim. ddarfod iddo unwath er mwyn cael ei ffordd ei hun, fygythio wrth ei gyfeillion y gnae-o ddad-ddywedyd pob peth a lefarse ac a scrifense-fo yn

  1. Bossuet, Histoire des Variations, Tome i, 230. Hist. des Variations, Tome i, 227-235.
  2. T. v. Serm. de Matrim, 123. Fel hyn yn Gymraeg: "Os na fynnwch chwi, fe fyn rhywun arall; os na ddaw y feistres, deled y forwyn."
  3. Encyclopédie Theologique, o dan y gair "Luther." Fe 'sgrifennodd Luther rigwm aflanach o lawer na'r un y cyfeiria'r darlithiwr atto, sef yr un sy'n diweddu fel hyn:

    In der Woche zwier
    Macht des Jahren hundert vier;
    Das schadet weder dir noch mir.