Chwara teg i Brotestanied: 'd ydwi ddim yn meddwl y bu neb erioed ohonynw y tu allan i'r Alban, a Nerpwl, Belfast, a gwallgofdai Cymru, yn amddiffyn yr hwnn a eilw Dr. Johnson yn Ruffian of the Reformation, sef y darn-lofrudd Knox.[1] Ie, yn yr Alban ei hun, fe brysurwyd. i ddwyn i mewn drachefn lawer o'r petha y gwenddase Siôn Knox a Siani Geddes mor groch yn eu herbyn.
Nid oes amser i sôn am Zuinglius, a Beza, ac Osiander, a Charlostadt, a Thomas Cromwel, a'r Gwarchodwr_Somerset, a'r "diwigwyr" erill. Oddi eithyr Ecolompadius, ac efalle un ne ddau erill, dynion diras oedd y diwigwyr.[2].
Rhag ichi feddwl fy mod yn seilio fyng 'hyhuddiadau ar dystioleutha Catholigion, gwrandewch pa beth y maen nhw'u hunen yn ei ddywedyd am eu gilydd. Er fod Melanchthon bob amser yn ceisio escusodi Luther hyd y galle-fo; etto, fel hynn y mae-o'n ysgrifennu at Calvin:
"Yr ydwi'n cael fy hunan yng'hanol caccwn ffyrnig, ac yn y nef yn unig yr ydwi'n disgwil cael didwylledd."
Ac fel hyn at Camerarius:
"Dynion anwybodus, na wyddanw ddim oll am dduwioldeb na discyblath, sy'n llywodreuthu yr eglwysi Protestanadd; demagogied yn gwenieithio i'r bobol, fel areithwyr gwlad Groeg.
- ↑ Bellingham's Soc. Asp., 145.
- ↑ "Perhaps the world has never in any age seen a nest of such atrocious miscreants as Luther, Zuinglius, Calvin, Beza, and the rest of the distinguished reformers of the Catholic religion: every one of them was notorious for the most scandalous vices, according to the full confession of his own followers," ebe'r Protestaniad Cobbett yn Hist. Ref., Letter vii