Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BREUDDWYD PABYDD Dyma'r rhai sy'n arglwyddieuthu; ac yr ydw inna fel Deiniol yn ffau y llewod. . . Y mae'r eglwysi wedi mynd i'r cyfryw gyflwr fel y maenw yn nythle pob drygioni.

Ebe Luther wrth Zuinglius:

"Rhaid eich bod chi ne fyfi yn weinidog Sattan."

Ac yn ei Gyffes Ffydd, fo eilw Zuinglius ac Ecolompadius a'u cyfeillion Swissig yn "ffylied, yn gablyddion, yn greaduried diddim, yn felltigedigion na ddylid ddim gweddïo drostynw."

Attepson nhwtha mai y fo oedd y "Pab newydd a'r Angrist, ac y dylse fod yn g'wilyddus ganddo-fo lenwi ei lyfr â chynnifer o enllibiau a chythreulied."

Fel hynny scrifennodd Calvin at ei gyfaill Bullinger am Luther:

"Y mae'n annichon diodde cynddeiriogrwydd Luther, yr hwnn y mae ei hunanoldeb yn ei rwystro rhag canfod ei ddiffygion ei hun, a rhag goddef ei wrthddywedyd gan erill."

Ebe Luther unwaith:

"Mi a lynaf wrth yr offeren o fig i Carlostadt, rhag i'r diawl feddwl ei fod-o wedi dyscu rhiwbeth ini."

Dyma dystiolath Calvin am Osiander:

Bwystfil gwyllt na ellir mo'i ddofi; y mae'n ffiadd genni'w angrhefyddolder a'i anfad weithredoedd-o.

Fel hynn y mae Calvin yn cyfarch y pennaf o Luthereried Westphalia:

"A wyti yn fy nyall-i, gi? a wyti yn fy nyall yn iawn, ynfyttyn? a wyti yn fy nyall yn iawn, y bwystfil boliog?

Y mae Bucer mewn llythyr at Calvin yn cyfadde "na ŵyr y rhai mwyaf efengyladd o'r