Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Protestanied ddim pa beth ydi gwir edifeirwch." Ac mewn llythyr diweddarach, y mae-o'n dywedyd:

Yn ddiau, y mae Duw wedi talu ini yn chwerw am y sarhad a ddygasoni ar ei enw trwy ein rhagrith hir a niweidiol."

Ac mewn llythyr arall fe ddywed "i'n pobol ni ymwrthod â gormes ac ofergoeledd y Pab. Yn unig er mwyn cael byw yn ôl eu hewyllys eu hunen.

Yr un ffunud y mae Capiton, cydweinidog Bucer, yn yscrifennu at Farel:

"Y mae pob peth yn ymddiriwio. Nid oes gynnoni ddim un eglwys, nac oes, ddim cimmin ag un â dim discyblath ynddi. Y mae Duw yn peri ini weled y cam a neuthoni â'i eglwys trwy ein penderfyniad byrbwyll, a thrwy ein hanystyriath yn ymwrthod â'r Pab, canys y mae y bobol yn mynnu rhedeg yn benrydd heb un ffrwyn."[1]

Y mae'n amlwg fod y rhai pennaf oll o'r Diwigwyr yn hanner edifarhau ar amsera am wadu ohonynw awdurdod yr Eglwys Gyffredinol; canys fel hynn y serifennodd Luther unwaith at Zuinglius:

Os pery'r byd yn hir, fe fydd yn rhaid etto, o achos y gwahanol ystyron yr ydys yn eu rhoi i air Duw, dderbyn penderfyniada'r Cynghorau Eglwysig, a sefyll arnyn nhw er mwyn cadw undeb ffydd."

Ac ebe Melanchthon, ei gludydd arfa:

"Fe fydde unbenath y Pab yn fanteisiol iawn. i gadw ym mysg cynnifer o genhedlodd unffurfiath mewn athrawiath."[2]

  1. Bossuet, Histoire des Variations, Tome i, 193, 199, 240, 420, 421, 422. Balmez, European Civilization, p. 411.
  2. Quoted by Balmez in European Civilization, p. 411.