Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/47

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac medd Calvin hefyd yn ei Inst. 6, 11:

Fe osododd Duw eisteddfa'i addoliad yng-'hanol y ddeuar, ac a osododd yno un Goruchaf Escob, a dim ond un, yr hwnn y gnae pawb yn dda edrych atto, er mwyn gallu yn well gadw undeb.'

Pa ryfedd i'r Cymry, a chenhedlodd erill, ar ôl gwybod y petha hynn oll, droi i felltithio dynion oedd yn melltithio'u gilydd, ac yn methu â chyttuno i neyd dim heb law drygu eglwys eu tada? Pa ryfedd iddynw, ar ôl dyall trwy yscrifeniada'r "Diwigwyr" eu hunen, morr aflywod- reuthus oedd yr eglwysi Protestanadd, droi i alw'r "Diwigiad gogoneddus yn Chwyldroad gwaradwyddus? Ie, pa ryfedd, meddaf inna, ddarfod i ddrwgfuchedd y Protestanied cyntaf attal Protestaniath yn ddisymwth rhag ymdeunu tross ganolbarth a deheubarth Ewrop, ac i ymarweddiad santadd gwŷr o fath François de Sales, Escob Geneva, fod yn foddion i ddwyn milodd yn ôl i'r Eglwys y gwrthgiliasenw ohoni?

Luther, Calvin, Knox, Cranmer-dyma dy dduwia-di gynt, O Gymru!

Ai am dy fod yn caru yr estronol yn well na'r brodorol, y neilltuol yn well na'r cyffredinol, y newydd yn well na'r hen, y cefnisti ar grefydd dy dada? Ai am fod Harri VIII yn frenin y Seuson, ai ynte am ei fod-o'n hannu o Duduried Môn, y derbynisiti o 'n bab yn lle Clement VII?

Pe cenedlgarwch a'th hudase o'r iawn, fe fyse'n haws genn i fadda iti; ond nid hynny, ysywath, a ddarfu dy hudo; canys yr oedd Mair hefyd yn ferch i'w thad, a hynny o'r wraig orau a fu ganddo; ac heb law hynny, hi a fu yn drucaroccach wrth ein cenedl ni nag y bu ei chwaer