Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/48

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Elspeth. Er hynn oll, ti a gyttunaist â'r Seuson o'r dechreuad i alw Mair yn Fari Weudlyd!

Y gwir ydi mai am dy fod ar y cyntaf yn ofni'r genedl Seisnig yn fwy na Duw, a'th fod yn ddiweddarach yn ei charu-hi yn fwy na thi dy hun, yr euthosti'n Brotestanadd. Yr oedd gennyt escus hefyd, a dyma fo: yr oedd dy ddarostyngwyr yn dy gadw mewn anwybodath ddygyn; a chann na alleti o achos yr anwybodath honno ddim magu hanesyddion dy hun, pa beth a naeti, druan, amgen na darllen a choelio yr hynn a goeddesid gann hanesyddion y genedl nesaf attati?

Fe fydde'r Seuson yn beio arnat yn finiog am gredu'r chwedla plentynadd ynghylch Brut ac Arthur a Charadog ac Emrys; eithyr gormod o beth a fyse discwil iddynw chwerthin am dy benn am gredu eu chwedla plentyneiddiach nhw'u hunen ynghylch Joan, y pab beniw; marwolath arswydus Escob Gardiner; llawenydd a diolch y Pab Gregor am gyflafan gŵyl Bartholo- meus; Brad y Pabyddion; maddeuant prynn, addoli'r Forwyn Fair, addoli delwau a chreiria, llygredigath y cyffesfeydd a'r mynachlogydd, &c.

Ti a fuost yn wir yn goelgar dross benn, eithyr ti a olchist ymaith dy fai, ac a ddoist allan yn "Gymru lân ; canys pann y cefisti'r gwirionedd ti a gredist iddo yn ebrwydd.

O rann hynny, nid Catholigath a Chatholigion a ddarfu i ti eu cashau, ond gwatwar-luniau ohonynw. Nid Protestaniath a Phrotestanied a ddarfu iti eu hoffi, ond creadigeutha dychymyg y rhai oedd yn ennill eu tammad wrth eu moli-nw.

Pa fachgennyn sydd, ie, yn yr oes ola honn, na's temtid i feddwl, ar ôl darllen llyfr celwyddog Foxe, fod ei “ferthyri" yn "ardderchog lu!"