Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/49

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O! ddiscleiried yr ymddengys y Diwigwyr Protestanadd a'r Puritanied, ar ôl eu gwyngalchu gann yscrifenwyr lliwgar fel D'Aubigné Macaulay.[1] Eithyr tân beirniadath a brawf waith pawb, pa fath ydi-o. Fe ddangosodd hanesyddiath onestach yr oesodd diwedda hynn na fu erioed ddynion mor anghysson, nac efalle, ddynion morr anhawddgar a didoriad chwaith, â'r rhai y dysewyd Cymry yr oesodd tywyll i'w cyfri'n Enwogion y Ffydd. Y mae y corach yn ymddangos yn gawr yn y niwl; ac nid hawdd gweled anaf ac aflendid ar ddyn pell.

Ond erbyn hynn y mae'r haul wedi codi, a'r niwl wedi cilio, a'r pell wedi ei ddwyn yn agos. Er hynny, nid mewn un dydd nac mewn blwyddyn y gorfu'r gwawl ar y gwyll. A phann y doeth y gwirionedd i'w le, yr oedd peth hirath yn ymgymyscu â llawenydd y rhai a fu am gyhyd o amser yn credu celwydd. "Chi a ddymchwel- soch fy nuwia" oedd dolef llawer un. A pheth digon natturiol oedd i'r rhai gwannaf o'n cyndada Protestanadd deimlo'n siommedig, a synnu yn aruthrol wrth bob eilun syrthiedig, gann ddywedyd:

'Ai dyma'r gŵr a naeth i'r ddeuar grynnu, ac a gynhyrfodd deyrnasodd? A wanhawyd titha fel ninna, Luther? a euthost ti, Calvin, yn gyffelyb i ni?"

  1. Y mae Macaulay, er yn gorfoli'r Puritaniaid, yn sôn yn bur barchus am y Catholigion mewn llawer man, yn enwedig yn y dernyn huawdl sy'n diweddu fel hyn: "She [i.e, the Catholic Church] may still exist in undiminished vigour when some traveller from New Zealand shall, in the midst of a vast solitude, take his stand on a broken arch of London Bridge to sketch the ruins of St. Paul's." Essays.