Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/5

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGAIR

NI sgrifennwyd erioed yn Gymraeg ddim mwy miniog na "Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys." Dychan ydyw ar sectyddiaeth a gwaseiddiwch cenedlaethol.

Breuddwydia'r awdur am stad Cymru yn y flwyddyn 2012. Gwêl Brotestaniaeth wedi cwympo, a'r wlad o'r diwedd (diolch i'r Undeb Catholig") wedi ei rhyddhau "oddiwrth ddylanwad mall y sectau, y rhai, oblegid cenfigen tuag at eu gilydd, a fuasai yn cydymdrechu i'w darnio ac i'w Seisnigeiddio hi.

Breuddwydia ei fod (yn 2012) yn gwrando cyfres o ddarlithiau ar hanes Cymru a hanes yr Eglwys Gatholig, a thrwy'r darlithiau hyn fe dynnir inni ddarlun o'r hyn y gallai Cymru fod o ran bywyd ac arferion ac iaith—pe bai hi'n ffyddlon iddi hi ei hun yn lle dynwared y Saeson Yn Y Geninen, yn 1890, 1891, ac 1892, y cyhoeddwyd "Breuddwyd Pabydd" yn gyntaf. "Ni ddaw un llenor Cymreig o'r holl ganrif yn agos at Emrys ap Iwan," meddai'r Athro T. Gwynn Jones. "Pa beth bynnag y ceisiai ei wneuthur, fe'i gwnâi fel meistr."[1]

Mab i arddwr plas Bryn Aber, gerllaw Abergele, Sir Ddinbych, oedd R. Ambrose Jones (Emrys ap Iwan). Ganwyd ef yn 1851. Ffrances oedd ei hen nain—cymdeithes i wraig fonheddig a drigai yng Nghastell y Gwrych, ger Abergele. Pan oedd yn 14 oed aeth i weithio mewn siop ddillad yn Lerpwl. Daeth yn ôl ymhen blwyddyn, a bu'n arddwr ym Modelwyddan. Dechreuodd bregethu, a phan oedd yn 18 oed aeth i Goleg y Bala. Wedi bod yn athro

ysgol am ychydig fe aeth i'r cyfandir. Dysgodd

  1. Llenyddiaeth Gymraeg y 19 Ganrif, td. 39.