Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/6

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ffrangeg ac Almaeneg, a bu'n dysgu Saesneg i eraill mewn ysgol yn Lausanne, Yswistir. Bu wedyn mewn ysgolion yn Bonn a Giessen.

Daeth dan ddylanwad y pamffledwyr Ffrengig, yn arbennig Paul-Louis Courier, gŵr a ysgrifennai yn erbyn "gormes y rhai mewn awdurdod," a phan ddychwelodd i Gymru dechreuodd yn ddiymdroi ysgrifennu i'r papurau—"y prif foddion at ehangu gwybodaeth, puro chwaeth, dyfnhau cydymdeimlad a meithrin annibyniaeth y lliaws."

Yn Rhagfyr, 1876, dechreuodd ei gad yn erbyn "y dwymyn Seisnig yng Nghymru," ac yn arbennig yn erbyn achosion Seisnig Methodistiaid. Gwrthodwyd ddwywaith ei ordeinio'n weinidog. Ar gais Dr. Lewis Edwards yng Nghymdeithasfa Dolgellau fe'i boicotiwyd gan y blaenoriaid.

"Tri chyhoeddiad sydd gennyf o hyn i ddiwedd y flwyddyn," meddai mewn llythyr yn 1882. Y mae blaenoriaid y sir . . . am fy ngwthio o'r weinidogaeth trwy fy newynnu."

Ond yn 1883, wedi hir ddadlau, fe'i derbyniwyd ef i'w ordeinio. Ceir hanes yr holl helynt yng Nghofiant Emrys ap Iwan," gan yr Athro T. Gwynn Jones.

Bu Emrys ap Iwan yn byw wedi hyn yn Ninbych, Trefnant, a Rhewl, ac yn Rhewl y bu farw yn Ionawr, 1906. Fe'i claddwyd ym mynwent ei gapel yno.

Ysgrifennodd lawer iawn i'r Faner a'r Geninen. Parchai'r" deddfau sy'n llyfnu'r iaith, eithr nid y mympwyon sy'n ei llygru hi." Wedi ei adnabod, hawdd deall tystiolaeth ei efrydwyr yn Rhuthyn: "Ni buom erioed heb eich parchu; ni allwn yn awr beidio â'ch caru."