Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/7

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys

Gan y TAD MORGAN, C.I.

"Os gallaf rywfodd yrru eiddigedd ar fy nghig a'm gwaed fy hun."

CYMRU GYMREIG GATHOLIG a fuasai y peniad gorau, o leiaf gennyf fi, uwch ben yr ysgrif hon; ond gan mai y ddihareb sydd uchod, neu un debyg iddi, a ebychai llawer Protestaniad ar ôl darllen yr ysgrif, y mae yn wiw gennyf uwch ei phen hi, os nad yn ei chorff, gytuno â'm gwrthwynebwyr.

Y mae gennyf gydwybod rhy dawel, a dannedd rhy dda, ac o herwydd hynny, gylla rhy iach, i freuddwydio llawer; a phan y digwyddo imi freuddwydio, ni byddaf odid byth yn coelio fy mreuddwyd; nac, yn wir, yn ei gofio.

A pha ham y byddwn yn goelgar? a minnau, fel ereill o'm brodyr, wedi bod yn astudiwr dyfal am ugain mlynedd a mwy, heb wraig na phlant i'm blino; ac wedi tramwyo llawer gwlad, a dysgu aml iaith, er mwyn ymgymhwyso i fyned yn genhadwr i ba le bynnag y gwelai fy uchafiaid yn dda fy nanfon.

Eithr ti a addefi, ddarllenydd tirion, fod rhagor rhwng breuddwyd a breuddwyd. Yn awr, mi a ddywedaf wrthyt ar fy llawgair (ac y mae fy enw a'm senw, onid ydynt, yn ddigon o warant amdano), na byddaf fi byth yn rhoi coel ar freuddwyd os na freuddwydiaf ef dair gwaith ol-yn-ol.

"Y drydedd waith y mae coel," medd traddodiad Cymreig; ac yr wyt tithau, er yn gwrthod traddodiadau yr Eglwys Gyffredinol, yn ddigon o "babydd, ' os addefi di y gwir, i dderbyn llawer o draddodiadau dy genedl dy hun.