Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/8

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A phe rhyngai bodd iti, yn angerdd dy eiddigedd dros Brotestaniaeth, daeru nad yw y dywediad Cymreig a goffeais ddim yn wir, mi allwn brofi iti ei wirionedd allan o Lyfr Job. Ond efallai na thyciai hynny chwaith am y gallet ti, fel yr yslywenaidd Luther, ymlithro o'm dwylaw, ac yna chwythleisio y'ngenau rhyw dwll diogel nad oedd gan awdwr Llyfr Job ddim hawl i ddangos ei drwyn ymhlith yr ysgrifenwyr ysprydoledig.

Dychwelwn at ein defaid, chwedl y Ffrancod. -Breuddwydio a wneuthum dair gwaith fy mod yn y flwyddyn 2012 o.c. mewn ystafell neu ddarlithfa hanner cron, lle yr oedd llawer rhes o feinciau yn ymgodi yn raddol, y naill uwch law y llall, fel yn llofft eithorfa Irving yn Llundain; ac yn eistedd arnynt yr oedd tua dau gant o feibion a merched gweini, heb law aml feistr a meistres, ynghyd â'u plant.

Er fod dillad y rhai olaf yn fwy drudfawr na dillad eu gweinidogion, go gyffelyb oeddynt o ran dull. Clos pen glin diwygiedig oedd gan y meibion, yr hwn, oblegid ystwythter ei ddefnydd a'r brodwaith oedd arno, a'r ysnoden a'r tasel oedd ar gammedd y garr, oedd yn llawn tebycach i glos yr Hungariaid nag i glos y Cymry gynt.

Esgidiau isel ag iddynt fyclau pres, neu arian, yn ôl gallu'r gwisgwr, oedd eu hesgidiau gŵyl; eithr yr oedd rhai, gan ofni gwlaw, wedi dwyn am eu traed fotasau uchel, yr hyn beth oedd yn rhoi lle imi gredu bod y ffasiwn yn eu plith hwy yn newid yn ôl math y gwaith a'r tywydd. Nid cob gynffonnog, gaeth, ydoedd eu harwisg; ond mantell lac, chwyfiannol, o bali teg, go debyg i hugan marchogion Hungaria.