Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/9

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gan nad oeddynt yn awyddus i leisio yn floesg fel Saeson neu hwyaid gwylltion, nac i ddangos eu bod yn haeddu eu crogi, nid oedd neb o honynt yn gwisgo am ei wddf dennyn Calcraft; yr hwn a enwir mewn cylchoedd cyfrifol yn West End Collar. Cadach sidan llac, yn unig, oedd yn amddiffyn ac yn addurno'u gyddfau hwy, wedi ei rwymo megis yn ysgafala, ond mewn gwirionedd yn dra chelfydd. Ni welais un het corn mwg, na het nyth aderyn, na het à la torth geirch; eithr yn unig hetiau â choryn lled bigfain, llydain a bwaog eu cantel, ac ystwyth wrth reswm; nid anhebyg i ffrwyth priodas rhwng het un o geffylwyr Carl y Cyntaf â het un o hen baentwyr Fflandrys.

Cyffelyb ei llun oedd het y merched, ond ei bod hi wedi ei hamgylchu â rhwymyn sidan, yr hwn yr oedd ei ben yn hongian yn wasgaredig o'r tu ôl. Am y genethod, yr oeddynt hwy ar dywydd teg yn ymfoddloni ar wisgo torch ag ynddi lygadau arian, neu hyd yn oed gylch o flagur a blodau. Gan fod y merched yn bur wahanol eu hoedran a'u sefyllfa, nid yr un peth, ac nid yr un faint, oedd ganddynt oll am eu gwddf; ond yr oedd gwddf pob un ohonynt yn fwy amlwg nag ydyw gyddfau merched yr oes hon.

Gan na fu gennyf erioed na chwaer na gwraig na chariad, ni ddylid disgwyl i mi ddarlunio y mwslin crych, y rhidens, y tlysau, y boglymau, y cadwyni arian, a'r llinynnau cyfrodedd, oedd ar eu gwasgod Yswisaidd.

Cwta oedd pais a gŵn pob un—prin yn cyrraedd hyd fol y goes; ond yr oeddynt yn fwy meinwych o lawer na'r rhai a welir yn awr