Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/19

Gwirwyd y dudalen hon

Pa ennill i Gymry oedd cael sect Seisnig yn gyfnewid am yr Eglwys Gatholig? A gafodd-hi archescob iddi ei hun? A oedd ei holl escobion a'i holl offeiried-hi yn Gymry? A oedd-hi yn well, ïe, a oedd-hi cystal ei moesa ag o'r blaen? A ymddyrchafodd-hi mewn dysc a dyalltwriath? A fagodd-hi cystal beirdd ag Aneurin Gwawdrydd a Dafydd ab Gwilym? A fedrodd-hi lunio chwedla byd-enwog fel y Mabinogion?

Y mae yn wir y cafodd-hi gyfieithiad rhagorol o'r Bibil gan y Dr. Morgan (diolch i'r mynach a'i haddysgodd-o); ond pa beth attolwg a naeth-hi â'r Bibil hwnnw oddi eithyr ymgecru ynghylch ei athrawieutha, a diystyru'w orchmynion-o? 'D wyf i ddim yn credu fod cimmin o gaddug ar Gymru rhwng y 2Diwygiad Protestanadd a'r2 Diwygiad Methodistadd ag y mynne'r Methodistied ini gredu, na'i bod-hi o dann rwysc y Methodistied a'r mân secta erill wedi mynd mor ddiriwiedig ag yr heure'r Fyddin Iach ei bod-hi; ond y mae yn sicir ei bod-hi yn fwy anfucheddol o grynn lawer yn ystod rhwysc y Sect Sefydledig, ac yn fwy rhagrithiol o lawer iawn yn ystod rhwysc y secta ansefydledig, nag oedd-hi o'r blaen.

Gann allu, fe allodd "Eglwys" Loiger, trwy gymmorth y gyfrath, ddymchwelyd yr Eglwys Gatholig yng 'Hymru; ond wedi cael y tir yn rhydd iddi hi ei hunan, 'd allodd-hi byth ymgadarnhau ynddo; a pha fodd y gallesid disgwil iddi ymgadarnhau, a hitha yn rhy 'styfnig i ymorwedd ar y teimlad cenhedlig?

Gwaith y Duw ag y mae yn hoff ganddo amriwiath ydi dosparthu dynion yn llwytha, yn ieithodd, yn boblodd ac yn genhedlodd; ac ni all nad aflwydda'r sect a ymdery yn erbyn y trefniad hwnnw.