Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/32

Gwirwyd y dudalen hon

oedd y Seusneg i bawb oedd yn ewyllysio siarad yn rhwydd, ac heb feddwl yn fanwl; ond er pann aeth y byd yn fwy dyscedig ac athronyddol, yr ydys yn teimlo mai yr hynn oedd yn gneyd y Seusneg yn gymmeradwy yn amserodd yr an- wybodath sy'n ei gneyd-hi yn anghymmeradwy yn yr amserodd hynn. Y mae y Cymro, a'r Indiad, a'r Swlw, yn rhy athronyddol, wrth nattur, i allu treuthu eu meddwl yn fanwl a phendant mewn iaith ag y mae ei brawddega-hi mor anwrthdroadwy â'r Seusneg; a hynny ydi'r achos pa ham y mae y cenhedlodd hynn, wrth siarad Seusneg, morr chwannog i ddechra agos bob brawddeg hefo Jt is. Dena un rheswm pa ham y mae yr Ellmynaeg hefyd wedi gorfod ar y Seusneg yn 'heyrnasodd Gogledd Amerig.

Er fod Cymru wedi cael darn helaeth o Orllewinbarth Lloiger yn gyfnewid am y tiriogeutha a berthyne iddi gynt yng 'Ogleddbarth a Deheubarth Lloiger, etto, gwlad fechan ydi Cymru fyth wrth lawer o wledydd erill; ac er fod mwy o lawer yn siarad Cymraeg yn awr nag a fu erioed o'r blaen, etto, ychydig ydi nifer y rhai sy'n eì siarad hi wrth y rhai sy'n siarad amryw ieithodd erill. Er hynn oll, y mae Cymru a'r Gymraeg yn ein sutio ni yn well nag un wlad ac iaith arall. Heb law hynny, 'd ydys mwyach ddim yn diystyru gwlad ac iaith am eu bod-nw'n gyfing eu cylch, mwy nag ydys yn diystyru dyn am ei fod-o'n fychan ei gorffolath. Y mae yn ddigon i ni ein bod yn uu o genhedlodd y ddeuar; a pha genedl arall a all honni ei bod-hi yn amgenach na hynny? West of England y gelwid ein gwlad; West English, ïe, Wild West English, y gelwid ein cenedl; ac English patois y gelwid ein hiaith, yn y dyddiau gynt. Er ys