Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/34

Gwirwyd y dudalen hon

y Rhosyna, eu bod yn rhy Seisnigadd i ddyall ac i brisio'i gerdd-o. Y fath berthynas sy rhwng anwybodath hanesyddol ac anieithgarwch!

Am fleunoried y Catholigion, nw a ddyfalson pa beth a fydde hynt y cenhedlodd yn yr amser a fydd, trwy astudio gogwydd y byd yn eu hamser nhw'u hunen, a'i hanes-o yn yr amser a fu. Am fleunoried y secta, ymbalfalu yr oedden nhw mewn tywyllwch, heb fynnu edrych yn ôl, ac heb allu edrych ym mlaen; ac am hynny pa reola ne athrawieutha bynnag a lunienw, ne pa un bynnag ai Achosion Seisnigeiddiol ai athrofeydd a godenw, nw a gaen achos cynn hir, i ddadneyd pob peth a neuthenw yn fleunorol ne, o leia, i gyfadde fod amgylchiada newyddion wedi dyrysu eu hen gynllunia-nw. Yr oedd Rhagluniath, er mwyn eu difetha-nw, yn eu gwthio i amryfusedd cadarn.

Hwyrach y mynnech ofyn imi pa ham na fyse'r Methodistied Cymreig yn sefyll ar ôl iddynw ymwahanu oddi wrth yr English Presbyterians, a pha fodd na fyse Eglwys Loiger yn sefyll ar ôl ei dadsefydlu a'i gneuthur mewn enw yn Eglwys Cymru. Am liaws o resyma; eithyr un o honynw y mae yn wiw imi grybwyll am dano yn y fann honn: sef, fod

Y SURDOES SEISNIG

wedi dylanwadu ar y secta Cymreig eu hunen. Yr oedd yn well gann eu swyddogion a'u huchelwyr-nw, er yn fora, bladru[1] eu tippyn Saesneg na'u Cymraeg. Mewn hen newyddiadur sydd yng'hadw yn y Gywreinfa Gymreig,

  1. Pladru: flaunt (display).