Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/36

Gwirwyd y dudalen hon

Hyd yn noed pann y byddanw yn adrodd rhiwbeth a lefarodd ne a scrifennodd Groegwr ne Rufeiniwr ne Ffrangewr, yn Seusneg, ac nid yn Gymraeg na Groeg na Lladin na Ffrangceaeg, y byddanw yn adrodd y rhiwbeth hwnnw. Tybed fod y gwŷr hynn yn meddwl mai y Seusneg nid yn unig a fydde, ond mai y hi hefyd ydoedd, y iaith gyffredinol er dechreuad y byd?

Fe ŵyr yr ifengaf ohonoch chi mai tramorwr heb fedru dim Seusneg oedd Napoleon I; ond wrth ddarllen treuthoda ac areithia a phregetha Cymreig y cyfnod Ymneillduol, braidd nad ydys yn fyn 'hemtio i gredu mai Sais uniaith oedd-o. Er engraff, mi a welis mewn rhifyn o hen newyddiadur a'i enw Cymro arath Gymreig a lefarse D.D. mewn Cymanfa Fethodistadd yn Llyrpwll, wrth adal y gadar; ac yng'hanol yr arath honno fe neir i Napoleon, "gal y Seuson," lefaru wrth gymdeithion anffyddol yn Seusneg, gan ddwedyd: "Gentlemen, who made all these stars?" Pe yn Seusneg y llefarse Napoleon hynn wrth rai nad oeddenw yn dyall Seusneg yn well nag ynta, y mae yn siccir y byse'i ofyniad-o yn anattebadwy am fwy nag un rheswm.

Mewn pregeth o waith ne gyfieithiad gweinidog arall, yr ydys yn rhoi y syniadau a dreuthodd Napoleon yn St. Helena am Iesu Fab Duw, i gid yn Seusneg! Pa beth, gyfeillion ifingc, a fydde'ch syniad-chi am gyflwr fy ymennydd i, pe'r adroddwni wrthochi yn Seusneg yr hynn a ddwedodd Napoleon ar y gadlong L'Orient, ne ar ynys St. Helena? ne pe'r adroddwn wrthochi yn iaith y Ffrangcod yr hynn a ddwedodd Dug Wellington ar fryn St. Jean? Onid adrodde pob dyn call eiria dyn arall naill ai yn ei iaith ei hun,