Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/9

Gwirwyd y dudalen hon

euloda a'r gwrandawyr yn lliosog; ond pann y doe gwragedd priod ne hen ferched hagar yn eu lle«-nw, fe fydde llawerodd yn cilio ymath. Ie, hyd yn noed yn y lleodd y bydde rhianod yn wastadol, fe aed i flino arnynw yn pipian yr un chwedel o hyd. Er fod peth newydd yn taro unwath, etto y natturiol sy'n taro nes torri'r garreg. Y mae merched yn siarad yn natturiolach ac yn edrych yn hawddgarach ym'hobman nag mewn pulpud neu ar fanllor cyssegredig; a rhyfygus o beth ydi i neb ddisgwil i Dduw fendithio brygawthan merchettos ag y gorch'mynnodd-o yn eglur iddynw gau eu cega.

Yr oedd y trosedd hwn yn erbyn gorchymyn a greddf nid yn unig yn ddi-fudd i erill, ond hefyd yn niweidiol iawn i'r beniwod eu hunen. Nid ychydig o niwed a neid iddynw, i ddechra, trwy. hynn: sef, eu bod yn gorfod teimlo mai i edrych arnynw ac nid i wrando arnynw y deuthe llawer i'w cyfarfod. A'r hynn oedd waeth na'r cwbwl, yr oeddenw'n colli prif harddwch merch, sef gwyleidd-dra. Yn wir, yr oedd Bwth wedi dyscu i'w swyddogion beniw anghofio mai beniwod oeddenw, ac i alw y naill y llall yn fo ac nid yn hi. lr mwyn dangos dylanwad mawr y meddwl ar corff, fe dystioleutha meddygon fod barf drwchus wedi tyfu ar wyneb amriw o'r captenied beniw, ac i hwnnw foeli drachefn, yn raddol, o'r adeg y dechreusonw gofio o ba ystlen yr oeddenw.

Y mae'n deg imi ddweyd mai mewn anwybod yr oedd llawer o'r merched yn troseddu'r gorchymyn Ysgrythyrol, am nad oeddenw ddim wedi darllen yr Bpistolau at y Corinthied ac at Timotheus, ac am nad oeddenw ddim yn alluog i'w dyall-nw, pe bysenw wedi'w darllen-nw. Yr oedd erill yn dyall rhai rhanna yn eitha da, ond