XVI
Ac O! mi welais, gwae fy mron!
Yr esgid ar y traeth.
—GWILYM ALLTWEN.
GWENU fel arfer a wnai'r haul a'r môr, ond yr oedd ôl y storm yn drwm ar Ynys Pumsaint. Yr oedd dinistr ym mhobman. Gorchuddid y traeth o flaen yr ogof â dail a brigau a ffrwythau ac adar meirwon. Rhedodd Gareth a Llew i weld sut yr ymdrawsai'r "Neuadd." Nid oedd dim ohoni'n aros. Yr oedd y tri eraill wedi cyrraedd yno atynt cyn iddynt fedru penderfynu ar y fan lle y bu. Chwerthin a wnaethant am eu colled. Gallent godi tŷ eto gydag amser, ac yr oedd digon o amser ganddynt. Teimlent yn llawn hwyl ac afiaith ar y bore hwnnw. Yr oedd yr awyr mor glir ac iach ar ôl y storm. Daethent hwy bob un allan o'r peryglon i gyd yn ddianaf ac yr oedd bywyd yn felys o hyd.
Ai "Yr Afon" oedd y cenllif llwyd a ruthrai allan o'r wig a gwneud gwely dwfn iddi ei hun ar y traeth? Ni allent ei chroesi, felly aethant i fyny gyda'i glán am ychydig bellter. Yr un olygfa drist oedd yno drachefn. Yr oedd yno goed mawrion wedi diwreiddio, a ffrwythau o bob math—aeddfed ac