anaeddfed—ar y llawr. Yn hytrach na theithio'n flinderus trwy'r dyfroedd a'r galanastra hyd at "Stratford," dychwelasant trwy Bordeaux a cherdded ymlaen ar hyd "Traeth y De." Gwelsant yno rywbeth oedd yn fwy ei bwys yn eu golwg na dim a welsent hyd yn hyn ar yr ynys.
Cerddai Gareth ychydig o flaen y lleill. Cododd rywbeth o'r traeth. Rhedodd yn ôl a'i anadl yn ei ddwrn. Yr oedd yn rhy gyffrous i siarad. Yr oedd ei wyneb yn welw. Daliodd y peth o'u blaen heb ddywedyd gair. Esgid merch ydoedd!
O ba le y daethai'r esgid fach? Edrychasant arni'n ofalus. Esgid fach, isel, fonheddig ydoedd, heb fotwm na lâs, a sawdl uchel a blaen main. Yr oedd bron yn newydd, ond yr oedd dŵr y môr wedi anurddo'r lledr. Tu mewn yr oedd enw'r siop y prynwyd hi ynddi, siop enwog yn Llundain.
Yr oedd yr esgid fach fel ymwelydd o fyd arall. "Efallai bod llong wedi ei dryllio ar y creigiau yma," ebe Llew.
"O dir! Beth pe gwelem gorff marw ar wyneb y dŵr?" ebe Myfanwy.
Wrth fynd ymlaen cawsant ddigon o brofion fod llong-ddrylliad wedi bod yn rhywle heb fod ymhell. Ar wyneb y lagŵn gwelsant gasgen fawr, ac yn nes ymlaen rywbeth tebig i focs siwgr. Yr oedd darnau o ystyllod yma a thraw ar hyd y traeth.
Cerddai Mr. Luxton a'r bechgyn yn wyllt, a'u llygaid ar y rhibyn cwrel. Dilynai Madame a Myfanwy oreu gallent. Yn fuan, gwaeddodd Llew mewn cyffro,