"Dacw hi! Dacw long!" Gwelsant hi'n eglur, neu yn hytrach ddarn ohoni. Cuddiai creigiau uchel y rhibyn y rhan fwyaf ohoni oddiwrthynt. Yr oedd hefyd ymhell o'r fan honno, bron ar gwrr eithaf y Dwyrain.
Beth i wneud? Efallai bod rhai o'i theithwyr yn fyw arni. Sut i roi arwydd iddynt? Pe baent ar Ben y Bryn" gallent chwyfio a chael eu gweld. Cymerai ormod o amser i gerdded yno yn awr. Rhedodd y bechgyn yn ôl i hôl y cwch. "Cofiwch am y rhaff," gwaeddai Mr. Luxton ar eu hôl. Ceisiodd Mr. Luxton a Madame a Myfanwy gynneu tân er mwyn tynnu sylw rhywrai a allai fod ar y llong, ond ofer a fu eu hymdrech. Methasant â chael coed sych yn unman.
Pan ddaeth y cwch i'w hymyl, bu dadl rhyngddynt pwy a ai ynddo. Yr oedd ofn mentro ar Madame a Myfanwy ac ofn arnynt hefyd aros eu hunain yn ddiamddiffyn ar y lán. Beth pe digwyddai niwed i'r tri? Os oedd rhai ar ôl yn y llong ni wyddent pwy oeddynt. Y mae dynion drwg iawn yn fynych mewn llongau ar y môr.
Nid oedd amser i betruso. Concrodd y ddwy eu hofnau. Aethant bob un yn y cwch.
Yr oeddynt yn rhy gyffrous i siarad. Beth a phwy a welent ar y llong? Yr oedd ar Myfanwy ofn edrych i ddyfroedd y lagŵn rhag iddi weld corff marw yn llithro heibio. Dyna hwy bellach bron gyferbyn â'r llong a dacw le cyfleus i lanio. Daethant allan un ar ôl y llall. Rhoisant y cwch yn ddiogel a safasant ar y graig arw, lithrig, byllog, a hanner ofni mynd yn nes ymlaen.