ni â llwyth arall, a ni a enillai. Deuwn adref wedyn am tua chwe mis. Deuwn â chroen teigr i fy mam a rhes o ddannedd llew i fy chwaer Myfanwy, a rhywbeth arall i fy nhad. Wedi mwynhau fy hun yn dda, awn yn ôl drachefn i Affrica. Wrth deithio trwy'r goedwig, deuem ar draws canibaliaid, a byddai'n rhaid i ni ymladd am ein bywyd. Y tro nesaf y deuwn adref, caem storm ar y môr. Chwythid fi yn erbyn yr hwylbren. Cawn ergyd mor enbyd nes bod pawb yn meddwl fy mod wedi marw.
Yr eiddoch,
Yn gywir,
LLEW LLWYD.
Llythyr byr oedd gan Myfanwy. Yr oedd hi ddwy flwydd yn ieuengach na'i brawd.
Brynteg,
Glyn y Groes,
Gorffennaf 20, 19—
ANNWYL ATHRAWES,
Ar ôl gadael yr ysgol hoffwn fynd yn forwyn i dŷ doctor. Byddai'n rhaid i mi gadw'r tŷ'n lân, a pharatoi brecwast, cinio, te, a swper, a golchi'r llestri ar ôl pob pryd.
Ar ôl i mi fod yno am rai blynyddoedd, deuai doctor arall i helpu fy meistr. Yna, cyn hir, byddai