Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/114

Gwirwyd y dudalen hon

o rywle. Rhedasant mewn dychryn at y lleill, a wynebau'r ddwy am y gwelwaf.

"O!" ebe Myfanwy, "Mae rhywun i lawr yn y gwaelod yna! Oes, yn wir! Clywodd Madame a minnau sŵn ochain."

"Mae'n eithaf gwir," sibrydai Madame, fel pe bai arni ofn i'r truan ei chlywed. "Dewch yn ôl gyda ni." Safasant ar ben y grisiau. Ie, dyna'r sŵn yn ddigon eglur. Llais bach main, cwynfannus ydoedd, ochenaid gyda phob anadliad. Pwy oedd yno? Sut na welsent ef ddoe?

Aeth Llew a Gareth i lawr a Mr. Luxton ar eu hôl, a mynd i gyfeiriad y sŵn. Gwelsant lwybr o waed ffres yn mynd o un ystafell i'r llall. O'r annwyl! Beth oedd yno?

Aethant i mewn yn wyliadwrus i'r ystafell wely. Dyna'r ochain yn eu hymyl! Ni welent neb. Gwth iodd un ohonynt y drws yn fwy agored. Daeth cwynfan hir a chyfarthiad fach egwan. Ci bach oedd yno yn gorwedd tu ôl i'r drws, yn llyfu'r gwaed oddiar ei droed flaen.

"Myfanwy!" gwaeddai Llew yn llawen. "Ci bach sydd yma wedi niweidio'i droed. Dewch lawr eich dwy ar unwaith."

Sut na welsent ef ddoe na'i glywed? Diau iddo glywed eu sŵn rywbryd ac ymlusgo yno o ryw fan arall ar y llong.

"O, druan bach!" ebe Madame. "Edrychwch a oes tin o laeth yna yn rhywle. Mae syched arno ac eisiau bwyd, yr un bach!"