Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/119

Gwirwyd y dudalen hon

XVIII

I stood like one thunder—struck, or as if I had seen an apparition.
—DANIEL DEFOE (Robinson Crusoe).

DYWEDAI almanac Llew ei bod yn fis Mehefin. Nid oedd llawer o wahaniaeth yn yr hin. Yn ôl pob argoel, lle o dragwyddol haf oedd Ynys Pumsaint, gyda chawod o law taranau yn awr ac yn y man, ac yn ddiau, ambell storm fawr fel honno a gawsent yn nechreu Ionawr.

Yr oedd "Y Neuadd" wedi ei gorffen er ys rhai wythnosau. Yr oeddynt oll yn falch iawn ar eu cartref newydd. Lle hyfryd oedd yr ystafell fawr i eistedd ynddi ganol dydd poeth, neu i fwyta cinio ynddi gyda'r hwyr. Yr unig ddodrefn ynddi oedd y bwrdd a'r cadeiriau, astell a llyfrau arni, a drych yn hongian ar y pared.

Y mae pryd o fwyd rhwng cwmni yn fath o sacrament. Dylid ei fwyta'n weddaidd. Yn yr hwyr, ychydig cyn machlud haul y caent bryd mwyaf sylweddol y dydd. Caent hwnnw bob amser gyda'i gilydd, a gwnaeth Madame reol y bwyteid ef gyda chymaint o urddas ag oedd bosibl dan yr