yn gweini y tro hwnnw. Yr oedd y bwyd wedi ei roddi'n barod ar ford fechan y tu allan. Nid oedd ganddo ddim i'w wneud ond cario dysglau i mewn a'u gosod yn eu lle o flaen pob un, eu cario allan drachefn wedi y bwyteid ohonynt, a rhoi rhai eraill yn eu lle. Eisteddai Mr. Luxton ar un pen i'r ford. Cot wen, lân, a llodrau tywyll oedd am dano. Ni wisgai na choler na thei. Nid oedd pethau felly yn y ffasiwn ar "Ynys Pumsaint." Gwisg ddu, o ryw ddefnydd ysgafn, sidanaidd oedd am Madame, a chlwstwr bach o bump o berlau'r ynys yn ei gwallt. Ar y llawr wrth ei thraed eisteddai Socrates, yn edrych yn addolgar arni a disgwyl yn eiddgar am damaid o'i llaw. Ar un ochr yr oedd Myfanwy, mewn ffroc o gotwm glâs. Gwisgai hithau ei pherlau; saith ohonynt wedi eu gwneud yn rhaff am ei gwddf. Yr oedd y perl du oedd yn eu canol gymaint â physen. Dywedai Madame y buasai hwnnw ei hun yn werth canpunt yn Llundain neu Baris. Gyferbyn â hi eisteddai Gareth. Llodrau morwyr oedd gan y ddau fachgen, rhai glâs tywyll, rhaffau main o liana plethedig yn wregysau, a chrysau o gotwm gwýn. Bwytaent eu bwyd bob un heb na brys nac anhrefn. Gwnai Llew ei waith yn ddistaw a deheuig. Onibai am Madame a'i rheolau, buasent yn eistedd rywsut, yn bwyta rywsut yn ddidrefn a di-urddas, yn yr un dillad ag a wisgent drwy'r dydd.
Gwaith y sawl a fyddai'n gweini oedd golchi'r llestri hefyd, ond pan fyddai tro Myfanwy i wneud hynny byddai Gareth a Llew yn ei helpu.