hynny ei thad neu rywun oedd yn berchen arni. Rhoddwyd hi mewn canŵ, ac ychydig fwyd a dŵr ynddo, a'i gadael at drugaredd y môr. Bu am amser hir, hir, ni wyddai pa hyd, ar y môr. Trawodd y canŵ yn erbyn y rhibyn cwrel a amgylchai Ynys Pumsaint. Neidiodd hithau ar y graig, a nofio'r lagŵn, morgwn neu beidio. Yr oedd y canŵ ar y môr o hyd. Treuliasai dri mis ar yr ynys, yn byw ar ffrwythau,. Efallai y deuai ei phobl i chwilio am dani dros y môr. Efallai na ddeuent.
"Gobeithio, yn enw popeth, na ddeuant yma," oedd gweddi pob un o'r pump a wrandawai ar Mili.
Ni chasglwyd perlau y diwrnod hwnnw. Aed â Mili yn ôl yn y cwch i'r "Neuadd." Cafodd fwyd, a rhoddodd Myfanwy rai o'i dillad hi iddi. Cafodd gysgu yn yr ystafell fawr ar wely o ddail. Hi oedd yr unig un a gysgodd yn drwm ar Ynys Pumsaint y noson honno.