Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/125

Gwirwyd y dudalen hon

XIX

Tlysau a pherlau a physg,
Gwymon a gemau'n gymysg.
—R. WILLIAMS PARRY
(Cantre'r Gwaelod).

DAETH Mili'n gartrefol ar unwaith gyda'i phobl newydd. Dywedai Madame a hithau ei henw yn union yr un faith,—" Mi-li." Yr enw Saesneg "Milly" a roddai pob un o'r lleill iddi.


Tybid mai tua deuddeg oed ydoedd. Yr oedd ganddi gorff hardd er mai du ydoedd ei liw. Yr oedd yn dál a lluniaidd, a'i gwallt fel gwawl ar ei phen. Medrai redeg fel ewig, yn gynt o lawer na Llew na Gareth na Myfanwy. Dim ond Socrates a gai y blaen arni. Yr oedd ei gallu i weld ac i arogli pethau o bell yn destun syndod parhaus i'r lleill. Un diwrnod o ben y bryn edrychodd yn hir tua'r môr, a dywedodd y gwelai dir ar y gorwel. Yr oedd yn siwr mai ei gwlad hi ydoedd. Methai'r lleill â chanfod dim. Nid oedd gwydrau ganddynt. Er chwilio ni chawsent ddim un math ar deliscop ar y llong, ond sicrhai Mili hwy fod y tir yno. Nid oedd enw ganddi ar y