tom—tom. One, two white fellow man, one, two black fellow man long pig."
Deallasant wrth hyn yr arferai pobl Mili ddyfod i Ynys Pumsaint i wledda ar ddynion, a dawnsio a churo tabyrddau. Yr oedd clywed hynny'n ofnadwy, ond yr oedd gwaeth i ddilyn:—
Mans belong Mili him go away flenny long time, him come back, Mili know him come back.
Ceisiodd Mr. Luxton a Madame a'r tri arall ddysgu'r pagan bach mai peth drwg a ffiaidd ac ofnadwy yw lladd dynion a'u bwyta,—nad oes gan neb hawl i fynd. â bywyd un arall, ac yn y blaen. Gwrandawai Mili'n astud, a thynnu ei llaw yn dyner ar hyd braich Myfanwy yr un pryd. Edmygai groen gwýn, neu yn hytrach groen melyn Myfanwy, a dywedai'n aml, "Missy too much pretty." Yna dywedodd:—
"Mission man him say all same. Pappa belong Mili him try knock head belong mission man. Mission man no live now in Mili-land. Him gone finish."
Gyda'r un anadl dywedodd, a thynnu ei llaw dros fraich Myfanwy o hyd:—"This flenny good eat."
Y tro cyntaf y gwelodd Mili berlau Myfanwy, dywedodd y gwyddai hi pa le'r oedd digon o rai felly. Edrychai'r plant arni heb ei chredu. Dywedodd Mili y dangosai hi'r lle iddynt os deuent yno gyda hi yn y cwch. Dywedodd hefyd fod dynion gwynion yn dyfod i'w gwlad hi mewn llongau, a'u bod yn rhoddi rhubanau heirdd a gwregysau o bob lliw i'w phobl hi yn dâl am y perlau a gaent iddynt o'r môr. Drwy ambell frawddeg ddifeddwl felly