Bob yn dipyn daeth Llew a Gareth i fedru ymsuddo fel Mili, ond ni fentrasant hwy erioed i'r pwll dwfn ger y rhibyn. Dywedai Mili fod y morgwn yn hoff anghyffredin o gig dynion gwynion, ac y byddent yn siwr o'u gweld hwy o bell a dyna ddiwedd amdanynt. Felly bodlonodd y ddau ar leoedd mwy diogel yn nes i'r tir, ac yr oedd Mili gerllaw gyda chyllell hir yn barod i ymladd ag unrhyw siarc a ddeuai'n agos.
Dywedodd Madame a Myfanwy nad oedd bellach yn deg iddynt hwy gadw'r perlau i gyd. Rhanasant hwy un diwrnod yn gydradd rhyngddynt. Ar ôl hynny cai pob un berl yn ei dro, un bach neu un mawr fel y digwyddai. Yr oedd ganddynt hefyd rai darnau gwerthfawr o gwrel. Os byth caent fynd yn ôl i wledydd gwâr a chael gwerthu eu trysorau byddent yn bobl gyfoethog iawn.
Cafodd Mili lawer o ddillad a rhubanau oedd yn hardd iawn yn ei golwg hi, ac yn fwy o werth na'r perlau i gyd. Gwnaeth Llew a Gareth hefyd wddfdorch ardderchog iddi o gregyn tlws, a breichled a chlust— dlysau o ddannedd siarc a gawsent un diwrnod yn farw ar y traeth. Rhodiai Mili fel brenhines yn y dillad a'r addurniadau hyn, ac yr oedd yn ddiau yn hapusach nag unrhyw frenhines yn y byd.