I
Mawryga gwir Gymreigydd—iaith ei fam,
Mae wrth ei fodd beunydd:
Pa wlad wedi'r siarad sydd
Mor lân â Chymru lonydd?
—CALEDFRYN.
PLANT Mr Meredydd Llwyd, y saer, a'i wraig, oedd Llew a Myfanwy. Enw anghyffredin yn yr ardal honno oedd Meredydd Llwyd, a dyn digon anghyffredin oedd y saer. Pe buasai'n debycach i ddynion eraill y rhan honno o'r wlad, efallai y buasai yn fwy llwyddiannus gyda'i grefft. Yr oedd yn hoff iawn o ddarllen. Weithiau pan gai lyfr wrth ei fodd, anghofiai ei fod wedi addo gwneud y peth hwn neu'r peth arall i rywun yn yr ardal erbyn amser neilltuol. Collodd lawer o waith yn y modd hwn. Er nad oedd ei well fel crefftwr pan roddai ei feddwl ar ei waith, dywedai pobl na ellid dibynnu arno.
Efallai mai am ei fod yn arfer darllen a meddwl y gwelodd yn gynnar yn ei fywyd mor ffôl yw Cymry yn dioddef newid eu henwau o'r Gymraeg i'r Saesneg yn eu gwlad eu hunain. Troir Dafydd yn David, Ifan yn Evan, Rhys yn Rees, Prys yn Price, Meredydd