ar ben y coler bach lledr a wisgai eisoes. Rhoddodd Madame ef iddi gyda gwên. Clymodd Mili ef yn ofalus. Yr oedd y llythrennau coch yn amlwg ar y wegil a dolen fawr ar yr ochr. Er mwyn bod i fyny â'r amgylchiad, gwisgodd hithau ei gwddf-dorch o gregyn a'i chlust dlysau a'i breichled o ddannedd siarc. Dyna olwg ogoneddus oedd ar y ddau yn cychwyn am dro y bore hwnnw.
"Soc! Soc!" ebe rhyw lais yn y parc. Cododd Socrates ei glustiau, a gwrando.
"Soc! Soc!" Neidiodd Socrates a thynnu ar y ffrwyn a thynnu Mili ar ei ôl. Daeth merch ieuanc mewn dillad gwynion heirdd ymlaen a phlygu at Socrates a siarad ag ef, edrych ar y rhuban, a hanner wylo, ac yntau yn neidio o'i chwmpas ac yn llyfu ei llaw bob yn ail.
"O ba le y daeth y ci yma?" ebe hi yn Saesneg wrth Mili.
Ni fedrai Mili gael gair allan am funud. Syllai, a'i llygaid yn llydan—agored ar yr harddwch o'i blaen. Yna dywedodd ag un anadl:—
"Him come with de peoples from island far away over sea."
"Pa le mae eich meistres yn byw?'.
Dangosodd Mili enw a chyfeiriad Madame D'Erville ar y darn pres oedd ar goler lledr Socrates.
Dôf gyda chwi i weld Madame," ebe'r ferch.
Maddeuwch i mi, Madame, am ddyfod i'ch tŷ fel hyn," ebe'r ferch ieuanc. "Yr wyf mor gyffrous!