ohonynt hi i'w thŷ. Yn y tŷ hwnnw, mewn tref fechan gerllaw Melbourne, y cafodd ei hun pan ddeffrôdd o anymwybyddiaeth ei chystudd.
Gwraig weddw oedd yn byw yno wrthi ei hun. Derbyniai ryw gymaint o arian bob blwyddyn oddi— wrth y Llywodraeth am rywbeth a wnaethai ei phriod. Ar hynny yr oedd yn byw. Gofalodd yn dyner am Gwen yn ystod ei chystudd, a phan ddaeth yn iach ni fynnai iddi ymadael â hi. Ac i ba le yr âi Gwen? Nid oedd cyfeiriad ei dau ewythr ganddi. Dieithriaid iddi hi oedd y ddau. Teimlai Gwen mai cystal iddi fyw gyda Mrs. Watts â byw gyda hwy pe cai afael arnynt. Os gwelodd Mrs. Watts sôn yn y papurau am deithwyr eraill y Ruth Nikso ni ddywedodd ddim am hynny wrth Gwen, a bu Gwen yn hir yn rhy wael i deimlo diddordeb mewn dim. Wedi iddi wella, bu'n sôn am anfon hysbysiad i'r papurau i ddywedyd ei bod yn fyw ac i holi hynt y lleill, ond dywedai Mrs. Watts y buasent yn ddiau wedi gweld eu hanes cyn hyn pe bai rhywrai wedi eu hachub. Felly aeth yr wythnosau a'r misoedd heibio. Ni welsant ychwaith hanes dychweliad teulu Ynys Pumsaint. Ar y pryd hwnnw yr oedd Gwen yn brysur iawn ddydd a nos yn gweini ar Mrs. Watts. Daethai ei thro hithau i fod yn wael. Dywedai yn aml na wyddai pa beth a wnaethai onibai am Gwen. Bu farw yn niwedd Hydref.
Gadawodd ei holl eiddo,—pedwar ugain punt a dodrefn ei thŷ—i Gwen. Nid oedd pedwar ugain punt yn ddigon i fyw arno'n hir. Ni fedrai Gwen un